Croeso i’r Gyfadran ADY
Yn Ysgol Brynhyfryd, rydym yn falch iawn o’r hyn rydym yn gynnig a’r gefnogaeth sydd ar gael yma i’n disgyblion a’u teuluoedd ym mhob agwedd o Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant. Rydym yn ysgol gynhwysol ac wedi ymrwymo’n llwyr i gael gwared ar y rhwystrau i ddysgu a chyfranogiad i’r holl ddisgyblion.
Mae ein tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys Mrs Natalie Brant (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol), Miss Heather Lewis (Cynorthwyydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) ac un ar ddeg o Gynorthwywyr Addysgu hynod fedrus. Mae’r tîm yn sicrhau bod y plant yn derbyn ymyriadau wedi’u personoli a gofal bugeiliol, boed ar gyfer eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol, anghenion gwybyddol ac anghenion dysgu, anghenion corfforol a meddygol neu anghenion ieithyddol a chyfathrebu. Rydym yn cefnogi athrawon a rheini i adnabod a bodloni anghenion pob plentyn ac yn gweithio’n agos ag asiantaethau ehangach i adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol a gosod cynlluniau a phecynnau cymorth i helpu bodloni’r anghenion hyn.
Pe bai gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol, peidiwch ag oedi i gysylltu â mi ar 01824 703933 neu dros e-bost
DIWYGIADAU ADY
taflen-ffeithiau-ady-sut-bydd-y-ddeddf-yn-effeithio-ar-blant-pobl-ifanc-a-rhieni-gofalwyr
Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag, neu a allai fod ag, anghenion addysgol neu anableddau arbennig –https://www.snapcymru.org/