Croeso i’r Chweched Dosbarth
Ein haddewid
- Ein nod yw creu amgylchedd pwrpasol a chefnogol sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl i’n holl fyfyrwyr lwyddo.
- Bydd Canolfan y Chweched Dosbarth yn darparu addysg o ansawdd uchel a chyfleoedd cyfoethogi i bawb.
- Rydym yn ymrwymedig i annog ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn, fel y gallant ein gadael yn unigolion cytbwys, yn barod i wynebu cyfleoedd cyffrous a fydd yn eu hwynebu ar ddiwedd eu hastudiaethau Safon Uwch.
- Bydd Canolfan y Chweched Dosbarth yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol ein myfyrwyr a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu hagwedd tuag at eu hastudiaethau a bywyd ehangach yr ysgol.
Dathlu Llwyddiant
Yn ystod y ddwy flynedd byddwn yn:
- Cynnal noson ddathlu i wobrwyo’r disgyblion hynny sydd wedi gweithio’n galed ac wedi gwneud ymdrech rhagorol yn eu holl astudiaethau.
- Penodi swyddogion ym Mlwyddyn 13 i gydnabod myfyrwyr sydd wedi dangos esiampl dda i fyfyrwyr eraill yr ysgol, sydd wedi cymryd rhan ym mywyd yr ysgol yn y 6ed dosbarth ac yn yr ysgol isaf, sydd ag agwedd ardderchog tuag at waith ac sydd wedi dangos sgiliau arwain da.
- Defnyddio systemau i ddathlu llwyddiant myfyrwyr ym myd chwaraeon, y celfyddydau, cerddoriaeth a disgyblaethau eraill.
- Cymryd rhan yn y Rhwydwaith Seren, sef rhwydwaith ar gyfer myfyrwyr uchel eu cyflawniad.
- Cynnal Dawns yr Haf ym Mlwyddyn 13
- Cynnal digwyddiad Bagloriaeth Cymru i ddathlu’r haf ym Mlwyddyn 12.
Rhoddir pwyntiau i’r myfyrwyr hefyd am ymddygiad rhagorol. Caiff y pwyntiau hyn eu cyfrifo a’u defnyddio i helpu’r myfyrwyr i weithio tuag at ‘Wobr Rhagoriaeth’. Gellir defnyddio’r wobr hon wedyn i gefnogi ceisiadau i fod yn swyddogion a geirdaon UCAS/Cyflogaeth.
Cymuned a chyfoethogi
- Gwneud defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys datblygu tudalen Facebook a ffrwd Twitter.
- Gweithgareddau cyfoethogi megis siarad cyhoeddus, sesiynau coginio cyn mynd i’r Brifysgol, ymwybyddiaeth ofalgar a chymorth gydag ysgrifennu estynedig.
- Cyfle i bob myfyriwr ym Mlwyddyn 12 ymgymryd â rôl yng nghymuned yr ysgol, gan gynnwys llysgenhadon pwnc, mentoriaid cyfoedion a chyfeillion darllen.
- Ethol cynrychiolydd o bob dosbarth ym Mlwyddyn 12 i chwarae rhan yn natblygiad Canolfan y Chweched Dosbarth.
- Gweithdai parhaus a rhaglen gymorth gyda cheisiadau UCAS a bywyd ar ôl y Chweched Dosbarth.
- Siaradwyr gwadd i helpu gyda gwybodaeth am yrfaoedd a chyfleodd.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau ysgol-gyfan.
Ganolfan y Chweched
Yma yng Nghanolfan y Chweched, y mae gennym ystafell lles neilltuol ar gyfer ein myfyrwyr. Ystafell sydd wedi ei hadnewyddu a’i haddurno fel ei bod yn ystafell braf i fod ynddi i sgwrsio, ymlacio a chyfarfod gydag aelod o MIND Dyffryn Clwyd, sydd yma yn wythnosol i gefnogi ein myfyrwyr. A hithau yn gyfnod arholiadau pwysig ym mywydau ein disgyblion, bydd y gefnogaeth yma a’r ystafell hon yn amhrisiadwy iddynt.