Croeso i Flwyddyn 10

Fy enw yw Carl Murray ac fel Pennaeth Blwyddyn 10, rwy’n ymroddedig i sicrhau’r safonau uchaf posibl ar gyfer pob plentyn ac rwy’n mwynhau’r cyfle i weithio gyda’n tîm bugeiliol i ddatblygu’n myfyrwyr yn bobl lwyddiannus a chyflawn.

Mae Blwyddyn 10 yn flwyddyn gyffrous a phwysig yn siwrnai addysgol ein myfyrwyr. Bydd y myfyrwyr yn dechrau astudio’r cyrsiau TGAU neu’r cymwysterau galwedigaethol cyfatebol a fydd yn agor drysau iddynt i addysg ôl 16. Mae ein tîm gofal bugeiliol yn cefnogi’n myfyrwyr, yn eu helpu i ddelio â phwysau academaidd ac adeiladu cymeriad cryf er mwyn iddynt allu llwyddo yn y dyfodol. Rydym hefyd yn hyrwyddo gwerthoedd da ac yn rhoi’r myfyrwyr ar ben ffordd i wneud y dewisiadau personol cywir ar eu taith i fod yn oedolion ifanc.