Croeso i Flwyddyn 11!
Fy enw i yw Robin Nash a fi yw Arweinydd Blwyddyn 11 eleni. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael bod yn rhan o siwrnai’r grŵp gweithgar a chydwybodol hwn i flwyddyn olaf eu hastudiaethau TGAU.
Mae hon yn flwyddyn bwysig i bob un myfyriwr, ac mae potensial i ni sicrhau canlyniadau rhagorol unwaith eto!
Fel Arweinydd Blwyddyn, rwy’n angerddol am sicrhau bod y safonau uchaf posibl yn cael eu cyrraedd ym mhob agwedd ar fywydau ysgol ein myfyrwyr.
Fel tîm bugeiliol, rydym yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i’n myfyrwyr sy’n caniatáu iddynt ragori a chyrraedd eu llawn botensial yn academaidd, tra hefyd yn eu haddysgu a’u harwain i fod yn bobl ifanc cyflawn sy’n barod i wynebu’r byd y tu hwnt i Flwyddyn 11.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddymuno’n dda i bob myfyriwr ym Mlwyddyn 11 – gweithiwch yn galed, Flwyddyn 11, a phob lwc i chi gyd!