Croeso i Flwyddyn 7

Fy enw i yw Mair Searson a fi yw Pennaeth Blwyddyn 7. Rwy’n credu mewn parch, cymuned, tegwch a gwaith caled a’r gwerthoedd hyn sydd wrth wraidd ein hethos fel tîm bugeiliol. Mae rhwydwaith cefnogi eang a gofalgar ar gael i sicrhau bod profiad pob plentyn o drosglwyddo i’r Ysgol Uwchradd yn gyfoethog a rhwydd.