Croeso i Flwyddyn 8

Fy enw i yw Nicola Farrell ac mae gen i’r fraint o fod yn Bennaeth ar Flwyddyn 8. Maent i weld wedi setlo yn dda i’r flwyddyn newydd ac yn mwynhau’r ffaith nid y nhw yw’r ieuengaf erbyn hyn. Mae blwyddyn 8 yn adeg ble mae’r dysgwyr yn teimlo’n llawer mwy cartrefol ac yn cychwyn mynegi ei hunain a dechrau amlygu eu cymeriad. Gyda’r holl gyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael, mae yna sylfaen cadarn i’r dysgwyr addawol iawn yma, i ddatblygu i fod yn bobl ifanc eithriadol.