Croeso i Flwyddyn 9
Fy enw yw Alys Gwyndaf a fi sydd â’r fraint o fod yn bennaeth Blwyddyn 9 yma yn Ysgol Brynhyfryd.
Mae Blwyddyn 9 yn flwyddyn bwysig lle mae’n dysgwyr yn gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â’r
cyrsiau byddant yn dilyn ym mlynyddoedd 10 ac 11. Bydd ein dysgwyr yn gallu dewis cyrsiau TGAU
neu gyrsiau galwedigaethol. Bydd ein gweithgareddau ABCh yn datblygu syniadau i helpu’n dysgwyr
gyda’r dewisiadau o’i blaenau.
Mae gan ein dysgwyr nifer o sialensiau o’u blaenau a byddwn yn cydweithio yn agos i oresgyn y
sialensau hyn er mwyn iddynt ddewis y llwybr cywir ar eu cyfer.