Croeso’r Pennaeth
Pleser o’r fwyaf oedd cael cychwyn ar fy ngwaith fel Pennaeth Ysgol Brynhyfryd yr wythnos hon. Yn barod, rwyf wedi cael blas ar yr hyn sydd yn gwneud yr ysgol yn un arbennig a hynny diolch i’r croeso cynnes rwyf wedi ei dderbyn gan staff a dysgwyr.
Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r Corff Llywodraethol, Staff, Dysgwyr, Rhieni/ Gwarcheidwaid a’r gymuned ehangach er mwyn symud yr ysgol ymlaen a pharhau i sicrhau’r profiadau addysgiadol orau phosib ar gyfer ein pobl ifainc.
Fy mlaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf yw i ddod i nabod yr ysgol yn well a siarad gyda rhanddeiliaid er mwyn adeiladu darlun o’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y dyfodol. Yn y cyfamser, gallaf eich sicrhau bydd yr ysgol yn ddiflino yn eu hymdrechion i sicrhau bod addysg y dysgwyr yn cael ei flaenoriaethu wrth i ni agosáu at gyfnod arholiadau’r Haf a diwedd y flwyddyn ysgol
Mr Trefor Jones
Pennaeth