Hoci Merched dan 14
Llongyfarchiadau enfawr i’r sgwad hoci dan 14 merched yr ysgol sydd bellach yn bencampwyr Gogledd Cymru. Enillon nhw’r twrnamaint yn Wrecsam ddoe yn dangos agwedd anhygoel ac ysbryd tîm yn y glaw a’r eira!!
Roedd dewis eang o gacennau blasus a danteithion cartref ar gael yn y Bore Coffi Macmillan a gynhaliwyd yn Ysgol Brynhyfryd ddydd Gwener, 28 Medi. Ein myfyrwyr 6ed dosbarth oedd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, gwerthu tocynnau, pobi a gweini’r lluniaeth i’r staff a’r disgyblion. Llwyddasant i godi £400 tuag at yr achos teilwng hwn!…
Perfformiad arbennig gan ein tîm peldroed merched dan 13 yn erbyn Ysgol Morgan Llwyd. Chwaraeodd y merched yn arbennig o dda gan ddangos sgiliau uchel iawn pob tro. Chwaraewyr gorau’r gêm: Anna Roberts, Grace Dunkerley ac Alisha Whitehead-Hughes. Y sgôr terfynol oedd 5 – 1 ac mi fydd ein merched yn mynd ymlaen i’r rownd…
Dewiswyd Elin Elias, Erin Swyn Williams, Cerys Edwards ac Ifan Gwyn – myfyrwyr Chweched Dosbarth Ysgol Brynhyfryd ar gyfer Ysgoloriaeth Ysgol Haf Cyn-coleg ym Mhrifysgol Harvard, Massachusetts yn yr Unol Daleithiau ble bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i fywyd ‘coleg’ wrth fynychu amrywiaeth o ddosbarthiadau. Sicrhawyd y myfyrwyr bythefnos o ysgoloriaeth drwy Rwydwaith…
Waw! Pobl yn ciwio allan o’r drysau ac i mewn i’r maes parcio! Am noson lwyddiannus, hyfryd a llawn hwyl a gawsom ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a’u teuluoedd neithiwr! Braf iawn oedd gweld cynifer o bobl yn ein Noson Agored aml-thema. Roedd cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud, o weithgareddau’n ymwneud â Narnia…
Mae Steffan Dolben o flwyddyn 12 wedi cael ei ddewis i chwarae pêl-droed i Gymru o dan 18. Mi fydd Steffan yn cychwyn ei hyfforddiant yn ‘Dragons Park’ Newport yn fuan. Mae Steffan wedi chwarae pêl droed i dîm Rhuthun ag hefyd academi Bala o dan 19. Pob lwc i ti Steffan !