MYFYRWYR BRYNHYFRYD YN ENNILL CYFLEOEDD I GAEL BLAS AR ASTUDIO YN ‘OXBRIDGE’

Mae Elen Edwards, disgybl Blwyddyn 12 yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Brynhyfryd, wedi sicrhau lle ar Ysgol Haf i astudio Bioleg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ysgrifennodd Elen draethawd i egluro pam mae hi’n mwynhau astudio Bioleg a phenderfynodd wneud cais am le yn Rhydychen gan ei bod yn gobeithio astudio Biocemeg yno. Bydd hwn yn gyfle gwych i Elen gael blas ar fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd Elen yn falch iawn o’i chynnig ac meddai, “Rydw i wedi breuddwydio ers blynyddoedd lawer am fynd i Rydychen, a rŵan, trwy waith caled a chefnogaeth wych gan staff a Chweched Dosbarth Ysgol Brynhyfryd, gallaf gymryd y camau hyn i wireddu fy mreuddwyd”. Cafodd Sam Evans, sydd hefyd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 12 yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Brynhyfryd, ei ddewis i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yng Ngholeg Magdalen yng Nghaergrawnt ar ddiwedd mis Mawrth. Rhoddwyd cyfle i Sam gael blas ar fywyd ym Mhrifysgol Caergrawnt trwy fynychu darlithoedd yn y coleg. Dyma ddywedodd Sam am ei brofiad: “Roedd yn anhygoel. Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr ar rydw i’n edrych ymlaen at gyflawni fy uchelgais o fynd i’r Brifysgol. Diolch i Ysgol Brynhyfryd ac i Brifysgol Caergrawnt am y cyfle”. Dywedodd Mrs Manon Wilkinson, Pennaeth y Chweched Dosbarth yn Ysgol Brynhyfryd, “Rydym yn hynod o falch o’r holl ddisgyblion yn ein chweched dosbarth; maent i gyd yn ymroi’n llwyr ac yn gwneud eu gorau glas. Yma ym Mrynhyfryd, rydym yn eu parchu ac yn eu cefnogi i gyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau. Da iawn i’r holl fyfyrwyr chweched dosbarth a phob lwc iddynt yn ystod y cyfnod arholiadau heriol hwn”.

Similar Posts