Gweithdy Hanes ar gyfer Disgyblion Cynradd
Rydym wedi cael diwrnod arbennig iawn heddiw yn croesawu disgyblion blwyddyn 6 ysgolion Sir Ddinbych atom i ymuno a’n Gweithdy Hanes yma ym Mrynhyfryd. Hwyl a sbri wrth ddysgu – rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu chi yma eto yn fuan.
Canlyniadau Mathemateg Ardderchog
Rydym yn hynod falch yma yn Ysgol Brynhyfryd i gyhoeddi bod ein myfyrwyr blwyddyn 11 wedi derbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiad Mathemateg TGAU ym mis Tachwedd 2019. Cafodd 40.6% graddau A – A* a 73.5% wedi derbyn A* – C Ardderchog wir, mae’r gwaith caled yn amlwg! Llongyfarchiadau i chi gyd ym mlwyddyn 11
Basgedi Nadolig
Diolch yn fawr iawn i’n disgyblion a’u teuluoedd am gyfrannu nwyddau i’r Basgedi Bwyd fel rhoddion i Lys Marchan, Llys Awelon, Trem y Foel a Llys Erw yn ein cymuned. Mae disgyblion blwyddyn 9 wedi bod yn brysur iawn yn casglu nwyddau a’u gosod mewn basgedi yn barod i’w ddosbarthu yn lleol i ni yma…
Coeden Nadolig
Mae Nadolig wedi cyrraedd yma yn Ysgol Brynhyfryd ac rydym wedi cynhyrfu – gyda diolch i Tesco Rhuthun. Cafodd y disgyblion a’r staff croeso arbennig wrth weld y goeden 10 troedfedd yn sefyll yn ein derbynfa, wedi rhodd gan ein Tesco lleol. Mae hi’n fraint derbyn y rhodd ac i fod yn rhan o’n cymuned…
Noson Agored y 6ed Dosbarth
Am noson arbennig cawsom yn croesawu darpar fyfyrwyr i chweched dosbarth Ysgol Brynhyfryd I edrych ar y nifer cyrsiau ‘Lefel A’ sydd gennym i’w gynnig yma. Mae’n braf gweld gymaint o ymwelwyr ac yn cael clywed y sgyrsiau addysgiadol rhwng y myfyrwyr a’u teuluoedd gyda’n hathrawon ardderchog. Roedd yna gymaint o wynebau hapus sydd yn…
Llysgennad Chwaraeon Ifanc Aur Sir Ddinbych
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi fod ein myfyrwraig blwyddyn 12, Lois Hughes wedi ennill rôl Llysgennad Chwaraeon Ifanc Aur I Sir Ddinbych. Mae Lois yn 1 o 4 sydd yn cynrychioli ysgolion Sir Ddinbych ac aeth i lawr i Gaerdydd I’r cyflwyniad. Mae Lois yn ddisgybl brwdfrydig iawn ac rydan yn falch iawn ohoni….
Tîm Pêl-droed Merched dan 13
Perfformiad arbennig gan ein tîm peldroed merched dan 13 yn erbyn Ysgol Morgan Llwyd. Chwaraeodd y merched yn arbennig o dda gan ddangos sgiliau uchel iawn pob tro. Chwaraewyr gorau’r gêm: Anna Roberts, Grace Dunkerley ac Alisha Whitehead-Hughes. Y sgôr terfynol oedd 5 – 1 ac mi fydd ein merched yn mynd ymlaen i’r rownd…
Perfformiwr Chwaraeon Iau Sir Ddinbych 2019
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Huw Wyn Jones sy’n ddisgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Brynhyfryd wedi ennill y wobr am Berfformiwr Chwaraeon Iau Sir Ddinbych 2019. Derbyniodd Huw ei wobr yn seremoni Gwobr Chwaraeon Cymunedol Sir Ddinbych a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Llangollen neithiwr. Da iawn i chi Huw, rydyn ni i gyd yn…
Blwyddyn 7 yng Nghlan Llyn
Rhoddwyd cyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 7 Ysgol Brynhyfryd dreulio dau ddiwrnod addysgiadol, llawn antur a hwyl yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, ger y Bala. Cawsant flas ar geufadu a canwio mewn timau ar Lyn Tegid, er mwyn meithrin perthnasoedd rhwng cyfoedion a datblygu sgiliau cyfathrebu yn ogystal ag ymarferion datrys problemau ymarferol. Rhoddodd ein…