Noson Agored Blwyddyn 6
Am noson lwyddiannus, hyfryd a llawn hwyl a gawsom ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a’u
teuluoedd nos Iau diwethaf!
Braf iawn oedd gweld cynifer o bobl yn ein Noson Agored aml-thema. Roedd cymaint o
bethau i’w gweld a’u gwneud, o weithgareddau’n ymwneud â Dr Seuss i arbrofion
Gwyddoniaeth. Bydd Ysgol Brynhyfryd yn bwydo eich dychymyg, yn eich meithrin ac yn rhoi
cyfle i chi ddysgu mewn amgylchedd gwych ac i brofi amrywiaeth o bethau newydd!
Diolch i bawb a ddaeth i’n gweld a chofiwch, os na lwyddoch chi i ddod i’n gweld y tro hwn,
anfonwch neges e-bost atom neu ffoniwch ni ar 01824 703933 i drefnu ymweliad – rydym
yn awyddus i roi cyfle i bawb ddod i weld beth sydd gennym i’w gynnig. Mae’r broses
ymgeisio ar gyfer mis Medi 2019 bellach ar agor ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.