Tîm Hoci o dan 12
Roedd heddiw yn ddiwrnod gwych arall i’n chwaraewyr hoci. Gwnaeth y ddau dîm gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol hoci Cymru. Llongyfarchiadau mawr iddynt.
Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod cythryblus gyda llawer ohonom yn gorfod wynebu amrywiaeth o newidiadau a rhwystrau. Fel cerddor darganfyddais fod llawer o’r pethau rwy’n eu gwneud yn rheolaidd yn dod i ben yn sydyn. Wedi mynd oedd yr ymarferion a’r cyngherddau. Rwy’n gwybod bod llawer o’n myfyrwyr wedi profi newidiadau tebyg…
Mae Elen Edwards, disgybl Blwyddyn 12 yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Brynhyfryd, wedi sicrhau lle ar Ysgol Haf i astudio Bioleg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ysgrifennodd Elen draethawd i egluro pam mae hi’n mwynhau astudio Bioleg a phenderfynodd wneud cais am le yn Rhydychen gan ei bod yn gobeithio astudio Biocemeg yno. Bydd hwn yn…
Llongyfarchiadau i’n carfan bechgyn dan 14 am gymhwyso ar gyfer Rowndiau Terfynol Cymru ym mis Ebrill.
Roedd tîm pêl-droed Blwyddyn 10 yn enillwyr 5-2 yn erbyn Ysgol Elfed, Bwcle yng Nghwpan Cymru. Sgorwyr y goliau oedd Gruff Hughes-Owen, Finlay Jones, Gwern Doherty, Cian Williams ac Alex Williams. Dyn y Gêm Joe Bradder. Llongyfarchiadau!
Rhoddwyd cyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 7 Ysgol Brynhyfryd dreulio dau ddiwrnod addysgiadol, llawn antur a hwyl yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, ger y Bala. Cawsant flas ar geufadu a canwio mewn timau ar Lyn Tegid, er mwyn meithrin perthnasoedd rhwng cyfoedion a datblygu sgiliau cyfathrebu yn ogystal ag ymarferion datrys problemau ymarferol. Rhoddodd ein…
Waw! Pobl yn ciwio allan o’r drysau ac i mewn i’r maes parcio! Am noson lwyddiannus, hyfryd a llawn hwyl a gawsom ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a’u teuluoedd neithiwr! Braf iawn oedd gweld cynifer o bobl yn ein Noson Agored aml-thema. Roedd cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud, o weithgareddau’n ymwneud â Narnia…